Please wait...
Loading...

Pwy yw Cymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg (BSR)?

Cymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg yw prif gymdeithas feddygol arbenigol y Deyrnas Unedig ar gyfer gweithwyr proffesiynol rhewmatoleg a chyhyrysgerbydol.

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?

Mae'r Archwiliad Arthritis Llidiol Cynnar Cenedlaethol (NEIAA) yn cael ei gomisiynu gan y Bartneriaeth Gwella Ansawdd Gofal Iechyd (HQIP) ar ran GIG Lloegr a Llywodraeth Cymru. Mae dros 200 o ysbytai yng Nghymru a Lloegr yn cymryd rhan.

Mae'r archwiliad yn dilyn cleifion drwy'r 12 mis cyntaf o ofal. Mae'r archwiliad yn casglu gwybodaeth iechyd yn yr apwyntiad cyntaf ar gyfer pob claf yr amheuir bod ganddo arthritis llidiol, ac yna 3 mis yn ddiweddarach ac ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf yn achos y rhai sydd wedi cael diagnosis o arthritis gwynegol. Bydd hyn yn cynnwys diagnosis, profion a wnaed i gyrraedd y diagnosis a'r driniaeth.

Yr wybodaeth rydym yn ei chasglu, y gellir ei phriodoli i unigolyn, yw: enw, dyddiad geni, rhif GIG, cod post a rhyw. Mantais casglu'r manylion personol hyn yw ei fod yn ein galluogi i gysylltu â ffynonellau gwybodaeth cenedlaethol eraill, a bydd hyn yn rhoi darlun llawnach i ni o ba mor dda mae pobl yn ymateb i driniaeth.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ateb y cwestiynau a ganlyn:

  • Pa mor gyflym y caiff cleifion eu cyfeirio at ofal eilaidd gan feddygon teulu a pha mor hir mae'n ei gymryd i weld arbenigwr mewn rhewmatoleg?
  • Pa driniaeth mae cleifion ag arthritis llidiol yn ei derbyn dros y flwyddyn gyntaf hon, ac a yw hyn yn unol â chanllawiau cenedlaethol (NICE)?
  • Pa mor dda yw lefel y staffio mewn adrannau rhewmatoleg, ac a oes ganddynt fynediad at wasanaethau arbenigol fel ffisiotherapi, podiatreg a seicoleg?
  • A yw cleifion yn cael addysg amserol am eu diagnosis newydd i helpu i'w reoli'n dda?
  • A all cleifion gael gafael ar gyngor yn gyflym os yw eu symptomau'n gwaethygu neu pan fyddant yn wynebu anawsterau?

Sut ydyn ni'n casglu'r wybodaeth?

Rydyn ni’n defnyddio llwyfan ar-lein diogel a luniwyd yn arbennig i gasglu'r data hwn, a fydd yn cael ei gofnodi gan glinigwyr (yn www.arthritisaudit.org.uk) a chleifion (yn www.myarthritisaudit.org.uk).

Gyda phwy ydyn ni'n rhannu'r wybodaeth?

I greu'r darlun manwl hwn o ofal cleifion, anfonir y manylion personol (rhif GIG, dyddiad geni, cod post) at NHS Digital (Lloegr) ac at Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Yna, bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac NHS Digital yn defnyddio'r manylion hyn i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol (data HES am gleifion a dderbyniwyd http://www.hscic.gov.uk/hesdatadictionary a data PEDW am gleifion a dderbyniwyd http://www.datadictionary.wales.nhs.uk/). Mae'r wybodaeth gysylltiedig yn cael ei dychwelyd i dîm astudio NEIAA dan ffugenw. Mae BSR wedi comisiynu tîm yng Ngholeg y Brenin Llundain, mewn partneriaeth ag Ysbyty Coleg y Brenin, a fydd yn dadansoddi canlyniadau'r archwiliad hwn.

Mae'r wybodaeth gyfrinachol yn cael ei storio'n ddiogel yn unol ag argymhellion, safonau a rheoliadau’r GIG.

Mae'n bosibl hefyd y bydd data o'r archwiliad yn cael ei rannu ag ymgeiswyr trydydd parti at ddibenion ymchwil, gwerthuso gwasanaethau a gwella iechyd/gofal. Bydd rhannu data bob amser yn digwydd o dan reoliadau llywodraethu perthnasol o safbwynt y gyfraith a gwybodaeth. Ni fydd dynodwyr personol yn cael eu rhannu oni bai bod y trefniadau cyfreithiol, moesegol a diogelwch priodol ar waith. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chyhoeddi ac ni fydd unrhyw ddata yn cael ei drosglwyddo y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Byddwn yn storio eich data yn barhaol cyhyd ag y bydd NEIAA yn rhedeg.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer casglu'r data hwn?

Rydym wedi cael cymeradwyaeth gan Grŵp Cynghori ar Gyfrinachedd yr Awdurdod Ymchwil Iechyd i gasglu data cleifion heb ganiatâd ysgrifenedig. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gleifion optio allan os nad ydynt am i'w gwybodaeth gael ei chynnwys.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth a gesglir yw erthygl 9 (2) (i) y GDPR sy’n nodi bod y ‘prosesu yn angenrheidiol am resymau sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd’.

A allaf weld pa wybodaeth sy'n cael ei chasglu amdanaf i?

Os hoffech chi weld eich gwybodaeth, cysylltwch â'ch adran Rhewmatoleg leol.

A oes modd i mi dynnu fy ngwybodaeth yn ôl?

Wrth gwrs. Cysylltwch â'ch adran rhewmatoleg a rhowch wybod nad ydych am i'ch data gael ei gynnwys. Yna bydd yr Adran yn cysylltu â BSR gyda'ch ID Achos a byddwn yn tynnu eich cofnod o'r archwiliad.

Mae gennych hefyd yr hawl i godi pryderon neu gwyno drwy Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ffonio 0303 123 1113 neu ddilyn y ddolen hon: https://ico.org.uk/concerns/

Y rheolwyr data ar y cyd yw HQIP a GIG Lloegr. Gallwch gysylltu â swyddog diogelu data HQIP drwy data.protection@hqip.org.uk.

Swyddog diogelu data BSR yw Jessica Badley, a gellir cysylltu â hi drwy jbadley@rheumatology.org.uk

Cwestiynau Cyffredin

A fydd modd adnabod y data?

 Bydd y prosesydd data yn tynnu data archwilio adnabyddadwy.  

Oes gan yr archwiliad eithriad S251? 

Oes, Mae hyn ar gael yn gyhoeddus fan hyn – https://www.hra.nhs.uk/planning-and-improving-research/application-summaries/confidentiality-advisory-group-registers/

 Sut bydd y sefydliad sy’n lletya’r data yn rheoli mynediad i’r data?

Net Solving a KCL yw prif broseswyr y data ar gyfer yr archwiliad ar ran Cymdeithas Rhewmatoleg Prydain (BSR). Mae'r canlynol yn amlinellu'r mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i ddiogelu diogelwch y data:

  • Bydd gan bob clinigydd fanylion mewngofnodi eu hunain. Dim ond data ar gyfer eu cleifion eu hunain y byddant yn ei weld.
  • Mae’r offer archwilio ar y we yn cael ei letya gan Rackspace, darparwr gwe-letya diogel.
  • Mae’r data yn cael ei storio mewn Gweinydd Microsoft SQL, wedi’i ddiogelu drwy ddefnyddio dilysiad Windows sy'n atal gwybodaeth fewngofnodi rhag cael ei storio yn y cymhwysiad.  
  • Mae Net Solving yn lletya cronfa ddata SQL mewn aráe RAID sy’n rhwystro data rhag cael ei golli os bydd gyriant caled yn methu.
  • Mae data wrth gefn yn cael ei gadw mewn lleoliad anghysbell diogel.
  • Mae KCL yn cael mynediad at ddata dan ffugenw yn uniongyrchol wrth borth ar y we.
  • Mae KCL yn glynu at bolisïau trin data sefydliadol gan gydymffurfio’n llawn â GDPR.

Sut bydd y data yn cael ei drosglwyddo i’r sefydliad sy’n lletya’r data?

Drwy’r porth ar-lein - www.arthritisaudit.org.uk  

 A fydd unrhyw drosglwyddiadau ychwanegol o’r sefydliad sy’n lletya’r data?

Yn ystod y broses o gysylltu data, bydd data yn cael ei drosglwyddo i wasanaeth gwybodeg GIG Digidol a GIG Cymru.

Sut bydd y sefydliad sy’n lletya’r data yn storio’r data yn ddiogel?

Mae’r gweinydd yn cael ei gadw yng nghanolfan ddata Rackspace. Rackspace yw un o gwmnïau lletya mwyaf blaenllaw y byd. Mae pob un o ganolfannau data Rackspace wedi’u cyfyngu gan ddilysiad biometrig, cardiau allwedd a goruchwyliaeth 4x7x365. Mae hyn yn helpu i sicrhau mai dim ond peirianwyr awdurdodedig sydd â mynediad at lwybryddion, switsys a gweinyddion. 

 Pa mor hir y gall y sefydliad sy’n lletya’r data ei gadw?

Bydd data adnabyddadwy yn cael ei gadw am ddeng mlynedd ar ôl i’r prosiect ddod i ben. Mae’r archwiliad yn cael ei gyllido ar hyn o bryd tan 2022. Mae cyfle i hyn gael ei ehangu.

Rhif cofrestru diogelu data

 Z127452X